Abaty Aberconwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau - Wicipedia


Article Images

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu

B

Llinell 4:

==Yr abaty cyntaf==

[[Image:EglwysConwy.jpg|thumb|250px|Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol]]

Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felin ym mhlwyf [[Llanwnda (Gwynedd)|Llanwnda]], ger [[Caernarfon]], ar [[24 Gorffennaf]] [[1186]], gan fintai o fynachod o [[Abaty Ystrad Fflur]]. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac ym [[1199]] rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Llywelyn Fawr]]. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefnogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160  km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty ym 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab [[Dafydd ap Llywelyn]] yma hefyd ym 1246. Yr oedd mab arall Llywelyn, [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr|Gruffudd ap Llywelyn]], wedi syrthio i'w farwolaeth wrth geisio dianc o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]] ym 1244 ac wedi ei gladdu yno, ond ym 1248 trefnodd abad Aberconwy ac abad Ystrad Fflur i'w gorff gael ei ddychwelyd i Gymru a'i gladdu yn abaty Aberconwy gyda'i dad a'i frawd. Dioddefodd yr abaty ddifrod sylweddol yng nghyfnod [[Harri III o Loegr]] ym [[1245]] pan ymosododd ei filwyr ar Wynedd.

Cymerodd abad Aberconwy ran bwysig yn y trafodaethau rhwng [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'r goron Seisnig yn ddiweddarach yn y ganrif, ac ym 1262 ef oedd unig gynrychiolydd Llywelyn yn y trafodaethau.

Llinell 30:

*[[Maenan]]

*[[Y Groes Naid]]

[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Nghonwy]]