Abaty Aberconwy


Contributors to Wikimedia projects

Article Images

Roedd Abaty Aberconwy yn abaty Sistersaidd oedd yn wreiddiol ar safle sydd o fewn tref Conwy heddiw, yna'n ddiweddarach ym Maenan ger Llanrwst. Yn y 13eg ganrif Abaty Aberconwy oedd yr abaty pwysicaf yng ngogledd Cymru.

Yr abaty cyntaf

 
Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol

Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felen ger Caernarfon yn 1186 gan fintai o fynachod o Abaty Ystrad Fflur. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac yn 1199 rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd Gwynedd, Llywelyn Fawr. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160 km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty yn 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab Dafydd ap Llywelyn yma hefyd yn 1246. Yr oedd mab arall Llywelyn, Gruffudd ap Llywelyn, wedi syrthio i'w farwolaeth wrth geisio dianc o Dŵr Llundain yn 1244 ac wedi ei gladdu yno, ond yn 1248 trefnodd abad Aberconwy ac abad Ystrad Fflur i'w gorff gael ei ddychwelyd i Gymru a'i gladdu yn abaty Aberconwy gyda'i dad a'i frawd. Didoddefodd yr abaty ddifrod sylweddol gan filwyr Harri III o Loegr yn 1245 pan ymosododd y brenin hwnnw ar Wynedd.

Cymerodd abad Aberconwy ran bwysig yn y trafodaethau rhwng Llywelyn ap Gruffudd a'r goron Seisnig yn ddiweddarach yn y ganrif, ac yn 1262 ef oedd unig gynrychiolydd Llywelyn yn y trafodaethau.

Maenan

Wedi lladd Llywelyn yn 1282, gorfododd Edward I y mynachod i symud i safle newydd ym Maenan, er mwyn iddo ef fedru adeiladu castell a thref yng Nghonwy. Yr oedd yr abaty newydd wedi ei gwblhau erbyn 1284, gyda Edward yn talu'r gost. Yn y 15fed ganrif cofnodir fod abad Aberconwy, Siôn ap Rhys, wedi ffraeo ag abaty Ystrad Fflur ac wedi arwain rhai o'i fynachod a milwyr i ysbeilio Ystrad Fflur. Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r 16eg ganrif, Dafydd ab Owain oedd yr abad yno, cyn iddo gael ei apwyntio'n esgob Llanelwy. Cadwai lys agored a chanodd y bardd Tudur Aled iddo yn ei abad-dy ar fwy nag un achlysur. Yn 1535 amcangyfrifwyd fod gwerth eiddo'r abaty yn £162, ac fel y mynachlogydd eraill rhoddwyd diwedd ar abaty Aberconwy yn 1537 (gweler Diddymu'r mynachlogydd).

Ychydig sy'n weddill o adeiladau'r fynachlog ym Maenan, ond cafodd eglwys yr abaty yn Aberconwy ei throi'n eglwys y plwyf i dref Conwy. Mae wedi ei hail-adeiladu'n sylweddol dros y blynyddoedd, ond mae rhai darnau o hen eglwys yr abaty yn parhau. Credir fod adeiladau eraill yr abaty i'r gogledd ac i'r dwyrain o'r eglwys.

Yn ôl traddodiad, claddwyd y brudiwr Adda Fras (fl. ?1240 - 1320?) ar dir yr abaty newydd ym Maenan.

Llyfryddiaeth

  • R.N. Cooper (1992) Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies) ISBN 0-7154-0712-0
  • Harold Hughes a Herbert L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; argraffiad newydd, Capel Curig, 1984). Tud. 34-61

Gweler hefyd