Sputnik I


Contributors to Wikimedia projects

Article Images

Lloeren Ddaearol artiffisial gyntaf dynoliaeth oedd Sputnik I (a gyfieithir o'r Rwsieg fel 'Lloeren 1') . Fe'i lansiwyd i gylchdro isel o'r Ddaear mewn taith eliptig gan yr Undeb Sofietaidd ar 4 Hydref 1957 fel rhan o'r rhaglen ofod Sofietaidd. Anfonodd signal radio yn ôl i'r Ddaear am dair wythnos cyn i'w dri batris arian-sinc ddod i ben. Disgynnodd yn ôl i'r atmosffer yn aturiol ar 4 Ionawr 1958. Gwnaed yr arsylwad cyntaf ohoni, o'r Ddaear, yn arsyllfa seryddol Rodewisch (Sacsoni).[1]

Sputnik I
Enghraifft o'r canlynollloeren artiffisial o'r Ddaear Edit this on Wikidata
Màs83.6 cilogram Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Rhan orhaglen Sbwtnig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd4 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Daeth i ben5 Ionawr 1958 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganSputnik 2 Edit this on Wikidata
GweithredwrYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
GwneuthurwrS.P. Korolev Rocket a Space Corporation Energia Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.05201 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sputnik I

Roedd y lloeren yn sffêr metel caboledig 58 cm (23 modfedd) mewn diamedr gyda phedwar antena radio allanol i ddarlledu dros y radio. Roedd yn hawdd i weithredwyr radio amatur ganfod ei signal radio, [2] a gwnaeth y gogwydd orbitol 65° i'w lwybr hedfan orchuddio bron yr holl Ddaear.

Ni ragwelwyd llwyddiant y lloeren gan yr Unol Daleithiau. Achosodd hyn argyfwng Sputnik America a sbarduno'r Ras Ofod, rhan o'r Rhyfel Oer. Roedd y lansiad yn ddechrau cyfnod newydd o ddatblygiadau gwleidyddol, milwrol, technolegol a gwyddonol.[3]

Gair Rwsieg yw sputnik am loeren o'i ddehongli mewn cyd-destun seryddol;[4] ei ystyron eraill, o ran tarddiad y gair yw cydymaith teithio.[5][6]

Roedd tracio ac astudio Sputnik 1 o'r Ddaear yn rhoi gwybodaeth werthfawr i seryddwyrr. Gellid cyfrifo dwysedd yr atmosffer uchaf o sut a faint yr oedd y lloeren yn llusgo, yn arafu ar yr orbit, a rhoddodd lledaeniad ei signalau radio ddata gwerthfawr am yr ionosffer.

Lansiwyd Sputnik 1 o Safle Rhif 1/5, yn 5ed amrediad Tyuratam, yn Kazakh SSR (a elwir bellach yn Gosmodrome Baikonur). Teithiodd y lloeren ar gyflymder uchaf o tua 8 km/eiliad (18,000 milltir yr awr), gan gymryd 96.20 munud i gwblhau un cylchdro o'r Ddaear. Roedd yn trawsyrru ar donfedd o 20.005 a 40.002 MHz,[7] a gafodd eu monitro gan weithredwyr radio ledled y byd. Parhaodd y signalau am 22 diwrnod nes disbyddu batris y trosglwyddydd ar 26 Hydref 1957. Ar 4 Ionawr 1958, ar ôl tri mis mewn orbit, llosgodd Sputnik 1 wrth ddychwelyd i atmosffer y Ddaear, ar ôl cwblhau 1,440 cylchdro o'r Ddaear,[8] a theithio pellter o tua 70,000,000 km (43,000,000 mi).[9]

Geirdarddiad

Ystyr Спутник-1, (Orgraff Orllewinol: Sputnik-Odin yw 'Lloeren-Un'. Bathwyd y gair Rwsieg am Loeren (spwtnic), yn y 18g drwy gyfuno'r rhagddodiad s- ('cyd') gyda pwtnic ('teithiwr'), i greu 'cyd-deithiwr'.[10] Mae'r gair Cymraeg, fodd bynnag, yn cysylltu gyda'r 'lloer' (nid y Lloer daearol), sydd hefyd yn lloeren.  

Un o'r adroddiadau rîl newyddion Americanaidd cyntaf am Sputnik yn 1957

Dyluniad

 
Sputnik 1

Cynlluniwyd Sputnik 1 i fodloni set o ganllawiau ac amcanion megis:[11]

  • symlrwydd a dibynadwyedd y gellid eu haddasu i brosiectau yn y dyfodol
  • corff sfferig i helpu i bennu dwysedd atmosfferig o'i gyfnod mewn orbit
  • offer radio i hwyluso tracio ac i gael data ar ymlediad tonnau radio trwy'r atmosffer
  • dilysu cynllun gwasgedd y lloeren
 
Argraff arlunydd o Sputnik 1 mewn orbit

Prif adeiladwr Sputnik 1 yn OKB-1 oedd Mikhail S. Khomyakov.[12] Roedd y lloeren sfferig yn 585 milimetr (23.0 mod) o ddiamedr, wedi'i gynhyrchu o ddwy ran (dau hanergylch) a'u cysylltu gan 36 bollt. Roedd ganddo fàs o 83.6 cilogram (184 lb).[13] Trwch y ddwy ran hanergylch oedd 2 mm,[14] ac un  tarian wres 1 mm o drwch[15] wedi'i wneud o aloi alwminiwm - magnesiwm - titaniwm, AMG6T. Roedd gan y lloeren ddau bâr o antena a ddyluniwyd gan Labordy Antena OKB-1, dan arweiniad Mikhail V. Krayushkin.[16] Roedd pob antena yn cynnwys dwy ran tebyg i chwip, 2.4 a 2.9 metr o hyd,[17] ac roedd ganddo batrwm ymbelydredd bron yn sfferig.[18]

Dolennau allanol

Cyfeiriadau

  1. "Sternwarte und Planetarium - die Beobachtung von Sputnik 1".
  2. Ralph H. Didlake, KK5PM; Oleg P. Odinets, RA3DNC (22 September 2008). "Sputnik and Amateur Radio". American Radio Relay League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2007. Cyrchwyd 26 Mawrth 2008.
  3. McDougall, Walter A. (Winter 2010). "Shooting The Moon". American Heritage 59 (4). ISSN 0002-8738. https://www.americanheritage.com/content/shooting-moon. Adalwyd January 3, 2019.
  4. "Display: Sputnik-1 1957-001B". NASA. 27 April 2021. Cyrchwyd 16 May 2021.
  5. "Sputnik 1, Earth's First Artificial Satellite in Photos". SPACE.com. 4 October 2020.
  6. "APOD: October 3, 1998 – Sputnik: Traveling Companion". apod.nasa.gov.
  7. Jorden, William J. (5 October 1957). "Soviet Fires Earth Satellite Into Space". The New York Times. Cyrchwyd 28 December 2015.
  8. Zak, Anatoly (2015). "Sputnik's mission". RussianSpaceWeb.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ionawr 2013. Cyrchwyd 27 December 2015.
  9. "Sputnik-1 1957-001B". NASA. 27 April 2021. Cyrchwyd 16 May 2021.
  10. Chappell, David (2020-03-25). "Where Did Sputnik Get its Name?".
  11. Siddiqi, Asif A. (2023-03-29). "Korolev, Sputnik, and The International Geophysical Year". NASA History Division: Sputnik and the Dawn of the Space Age. National Aeronautics and Space Administration.
  12. [80th Anniversary of Oleg Genrikhovich Ivanovsky] (yn Rwseg). Novosti Kosmonavtiki https://web.archive.org/web/20090619143712/http://www.novosti-kosmonavtiki.ru/content/numbers/230/52.shtml. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2009.
  13. Кречетников, Артем (25 September 2007). (yn Rwseg). BBC Russia https://web.archive.org/web/20080205131922/http://news.bbc.co.uk/hi/russian/russia/newsid_7010000/7010982.stm. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 February 2008.
  14. Wade, Mark. "Sputnik 1". Encyclopedia Astronautica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 February 2007. Cyrchwyd 20 Ionawr 2007.
  15. [PS-1 – Earth's First Artificial Satellite] (yn Rwseg). Novosti Kosmonatviki https://web.archive.org/web/20071011160322/http://novosti-kosmonavtiki.ru/content/numbers/157/03.shtml. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 October 2007.
  16. Lidorenko, Nikolai. "On the Launch of the First Earth's artificial satellite in the USSR" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 April 2008. Cyrchwyd 26 Mawrth 2008.
  17. [The companion who saved the world] (yn Rwseg). Парламентская газета. 4 October 2007 https://web.archive.org/web/20071219184722/http://www.pnp.ru/chapters/events/events_4378.html. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 December 2007.
  18. [Sputnik-1 Satellite] (yn Rwseg). USSR in space. 27 Mehefin 2018 https://web.archive.org/web/20080323073641/http://www.space-ru.com/russian-satellites/satellite-sputnik-1/. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2008.